Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Hynt y gwaith gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru | Welsh Government's progress in developing the new Curriculum for Wales

CR 30

Ymateb gan: Mudiad Meithrin
Response from: Mudiad Meithrin

 

 

Cefndir Mudiad Meithrin

Y Mudiad: Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg mwyaf yn y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeutu 50 cylch. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. 

Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl yn genedlaethol, gyda 2000 ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd eu hunain. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag Awdurdodau Lleol.

O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn cydweithio gyda’r asiantaeth Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau addysg leol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.

Yn ogystal, mae gennym is-gwmni sydd yn darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar.  Gwneir hyn drwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynlluniau hyfforddi cenedlaethol.  Darperir cyrsiau hyfforddi yn seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid, aseswyr a  dilyswyr mewnol ledled Cymru.

 

Nodwn fod telerau'r ymchwiliad yn bwriadu canolbwyntio yn benodol ar y canlynol:

Hynt y gwaith o gynhyrchu fersiwn ddrafft o Gwricwlwm Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru ei chyhoeddi a chael adborth gan y cyhoedd ym mis Ebrill 2019;

Rôl yr Ysgolion Arloesi ac unrhyw gyfleoedd a heriau sy’n eu hwynebu wrth iddynt gyfrannu at y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm;

Y sefyllfa ddiweddaraf o ran gwaith y Gweithgorau a sefydlwyd i ymdrin â phob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad;

Cyfraniad arbenigwyr academaidd ac arbenigwyr allanol eraill yn y gwaith o gynllunio’r  cwricwlwm;

Sut y mae datganiadau 'Beth sy'n Bwysig?’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn cael eu datblygu i greu cynnwys y cwricwlwm ym mhob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad;

Hynt y gwaith o ddiffinio canlyniadau cyflawniad wrth symud ymlaen drwy’r gwahanol gamau yn y cwricwlwm newydd;

Sut mae datblygiad Cwricwlwm newydd Cymru yn cyd-fynd â datblygiad y cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol newydd i athrawon;

Rhoi gwybod i ysgolion ac athrawon am y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu’r cwricwlwm a chynnwys pob ysgol yn y gwaith hwn (nid dim ond yr Ysgolion Arloesi);

Effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rôl y Grŵp Cynghori Annibynnol a Bwrdd Newid, a chyfraniad y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar Ddiwygio Addysg;

Pa mor barod yw ysgolion ac athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ac i ba raddau y mae cysyniadau adroddiad yr Athro Donaldson ar ei adolygiad, Dyfodol Llwyddiannus, yn cael eu rhoi ar brawf a’u rhoi ar waith eisoes;

Sut y mae’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm ar y trywydd iawn a chanlyniad y cyfarfod a gynhaliodd ar 13 ac 14 Tachwedd 2018 i adolygu cynnydd;

Hynt y gwaith o ddatblygu trefniadau asesu newydd;

Y camau a gymerir i sicrhau bod Cwricwlwm Cymru newydd yn ategu blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Cymraeg 2050;

Unrhyw fater arall y mae rhanddeiliaid yn dymuno tynnu sylw'r Pwyllgor ato.

Er nad ydy sefyllfa lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu Addysg Cyfnod Sylfaen tair oed (wedi eu hariannu gan Awdurdodau Lleol Cymru) yn amlygu ei hun fel rhan o gylch gorchwyl yr ymchwiliad,  mae Mudiad Meithrin o’r farn fod gennym ni wybodaeth bwysig a pherthnasol i’w rannu gyda’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.  Nid ydy’r cyfraddau cyllido addysg tair oed yn y sector nas cynhelir yn gyfatebol i’r cyfraddau a gaiff ysgolion.  Serch hynny mae’r disgwyliadau o safbwynt arolygu a gweithredu Cwricwlwm addysg Cymru yr un fath a’r sector statudol.  Mae Mudiad Meithrin yn cefnogi 269 darpariaeth Cyfnod Sylfaen mewn Cylchoedd Meithrin, a 14 darpariaeth Cyfnod Sylfaen mewn meithrinfeydd.  Mae pob lleoliad yn cael eu harolygu yn erbyn y fframwaith Cyfnod Sylfaen gan ESTYN yn ogystal a chael eu harolygu gan Arolygaeth Gofal Cymru.

Cyflwynwn wybodaeth ynglŷn â phrofiadau Mudiad Meithrin o’r gwaith diwygio Cwricwlwm i Gymru.  Mae ein tystiolaeth yn berthnasol i ran fwyaf o feysydd y cylch gorchwyl uchod.

 

Mae Mudiad Meithrin yn cael ein hariannu gan Adran y Cyfnod Sylfaen i gyflogi Prif Swyddog Cyfnod Sylfaen.  Prif ffocws y gwaith yma yw

·         Codi safonau ymysg darparwyr addysg 3 oed sydd yn Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd (ac yn cael eu hariannu i ddarparu addysg rhan amser)

·         Trefnu digwyddiadau arfer dda ag hyfforddiant i gyd-fynd a Chynllun Gweithredu'r Cyfnod Sylfaen

·         Cynghori ar agweddau perthnasol a chodi ymwybyddiaeth o’r Cwricwlwm i Gymru ymysg aelodau

·         Bod yn aelodau gweithgar o Fforwm Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen sy’n cael ei weinyddu gan Adran Cyfnod Sylfaen y llywodraeth

Trwy gyfrwng y Fforwm Rhagoriaeth (grŵp aml-asiantaeth) buodd cryn alw am sicrhau dylanwad a llais i’r Cyfnod Sylfaen fel rhan o broses creu'r cwricwlwm newydd.  Araf bu’r ymateb gan adrannau oedd a chyfrifoldeb am ddatblygu’r cwricwlwm newydd, er waethaf ymdrechion amlwg yr Adran Cyfnod Sylfaen.  Cawsom wybod trwy gyfarfodydd y Fforwm Rhagoriaeth yn bennaf, bod yr ysgolion arloesi wedi eu dewis gan y Consortia Rhanbarthol.  Ymddengys na fu arbenigedd penodol yn y Cyfnod Sylfaen yn un o’r meini prawf i ddewis pa ysgolion gafodd fod yn rhan o’r gwaith arloesi.  Gresynwn am hyn, ac mae ein canfyddiadau mwy diweddar yn ategu bod hyn wedi bod yn wendid ac yn anfantais i’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm hwn yn y cychwyn.

Lleisiodd Mudiad Meithrin (ag eraill) sawl gwaith, nad oedd unrhyw waith arloesi yn digwydd yn y sector nas cynhelir, ac y byddai hyn yn gosod ein darparwyr addysg o dan anfantais wrth i’r cwricwlwm gael ei ddatblygu.  Serch hynny ni weithredwyd ar ein hargymhellion ac nid ydym eto wedi derbyn cyfleoedd i fod yn rhan o’r gwaith datblygu a gweithredu’r cwricwlwm newydd yn y blynyddoedd cynnar iawn, ar lawr gwlad. 

Pan benodwyd aelodau ar gyfer  gweithgorau'r 7 maes dysgu, bu Mudiad Meithrin (ynghyd a phartneriaid eraill) yn gofyn am lais cryf i’r blynyddoedd cynnar ag ystyriaeth o anghenion y sector nas cynhelir i weithredu'r cwricwlwm newydd tu allan i ysgolion.  Bu’r dasg o sicrhau cynrychiolaeth yn llafurus ond diolch i adran y Cyfnod Sylfaen o fewn y llywodraeth cafwyd cytundeb i ganiatâi i rai cynrychiolwyr o’r Cyfnod Sylfaen fynychu cyfarfodydd a chymryd rhan.  (Digwyddodd hyn yng ngwanwyn / haf 2018)

Erbyn i’r cynrychiolwyr hyn gael eu cynnwys, roedd y datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ wedi eu llunio, ynghyd a phob cam cynnydd (progression steps) lawr at 5 oed (sef y cam cyntaf).  Er bod yr Adran y Cyfnod Sylfaen ac unigolion amrywiol wedi llwyddo dylanwadu ar gynnwys gwaith y grwpiau hyn (dros y tri mis diwethaf), rydym yn teimlo bod y gwaith wedi bod yn frysiog a heb ei gynllunio yn ddigonol.

Daeth gwahoddiad i Mudiad Meithrin ddanfon ymarferwyr o Gylchoedd Meithrin i gyfarfodydd oedd eisoes wedi bod yn ymgynnull ac yn datblygu’r rhaglen waith.  Roedd aelodau'r grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad i gyd wedi eu hariannu yn llawn am eu hamser a’u gwaith trwy drefniadau cyllido addysg.  Roedd eu costau teithio a llety wedi ei dalu ac roeddynt yn mynychu oddeutu 9 cyfarfod (pob un yn ddiwrnod llawn) rhwng Mis Medi a nawr. 

Gan fod y gweithlu addysg nas cynhelir yn dueddol o weithio rhan amser mewn mudiadau bach (ble mae cynaladwyedd cyllidol yn her a ble mae cyflogau yn isel) mae hyn effeithio ar eu hargaeloedd.  Roedd hi’n anodd iawn iddynt fedri gyfranogi i’r gwaith.  Er waethaf sicrwydd gan staff Llywodraeth Cymru y byddai costau yn cael ei ad-dalu’n brydlon ac y byddai modd hawlio cyflog i gylchoedd ryddhau staff, ni ddigwyddodd hyn yn brydlon.  Golygodd hyn bod y llond dyrnaid o ymarferwyr oedd wedi ceisio cymryd rhan yng ngwaith y grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad wedi bod allan o boced am dros fis, ac felly yn methu parhau i fod yn rhan o’r gwaith.   Gwnaeth Mudiad Meithrin gais am gyllid i reoli’r ochr ariannol dros yr ymarferwyr i leihau’r rhwystrau ariannol iddynt, ond nid oedd hyn yn bosibl.

 

O safbwynt cynnwys y gwaith sydd wedi ei ddatblygu gan y grwpiau meysydd dysgu a phrofiad, mae yna newidiadau a gwelliannau mawr wedi bod dros y tri mis diwethaf.  Bu diffyg llais cyffredinol ymarferwyr ag athrawon arbenigol yn y cyfnod sylfaen yn amlwg yn nrafftiau cynnar y grwpiau hyn.  Nid oedd unrhyw ystyriaeth wedi bod o sut roedd plant 3 oed yn datblygu.  Roedd amryw o’r meysydd dysgu yn or-gymhleth ar gyfer y blynyddoedd cynnar ac felly mae llawer o waith caled wedi digwydd i geisio gwella’r gwaith hyn mewn modd sydd yn parchu egwyddorion pedagogaidd y Cyfnod Sylfaen.

Rydym yn parhau i gydweithio gyda’r grwpiau amrywiol pan ddaw cyfle ond mae’r amserlen yn dynn ac felly mae’r rhwystrau a’r heriau yn parhau hefyd.  Hoffem wneud rhai argymhellion er mwyn sicrhau gwelliannau yn y dyfodol:

·         Cynllunio pwrpasol i wireddu Strategaeth y Gymraeg 2050.  Nid oes argoel yn y gwaith presennol o sut y bydd y nod o greu siaradwyr Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn digwydd ar draws Cymru i bawb, boed nhw mewn ysgolion Cymraeg, Dwyieithog neu Saesneg

·         Mae angen i ddogfennau sydd yn ymwneud a phedagogi y cwricwlwm ymgorffori dealltwriaeth o’r ffaith ein bod yn genedl sydd a dwy iaith swyddogol, ac felly mae angen dealltwriaeth lawn o effaith caffael ail a thrydedd iaith wrth ddysgu ac addysgu, yn arbennig yn y blynyddoedd cyntaf o addysg plentyn

·         Ar hyn o bryd mae’r iaith Gymraeg yn teimlo fel mater ymylol i’r broses ddatblygu cwricwlwm.  Cafodd Mudiad Meithrin fynychu rhai cyfarfodydd i ran-ddeiliaid yn ogystal â mynychu rhai o gyfarfodydd diweddar y grwpiau MDAP, a rhaid nodi taw Saesneg oedd iaith popeth, heb fod yno gyfieithiadau Cymraeg o ddogfenni perthnasol hyd yn oed

·         Hoffai Mudiad Meithrin weld gwaith arloesi yn digwydd yn y sector nas cynhelir fel nad yw addysg 3 oed yn cael ei gadael allan o’r datblygiadau newydd oherwydd diffyg arbrofi a chyfranogaeth.  Rydym yn ffyddiog y byddai hyn yn her y bydd amryw o leoliadau yn ymgymryd ag hi yn fodlon gan eu bod wedi arfer gweithio i’r egwyddorion pedagogaidd sy’n sail i’r Cwricwlwm i Gymru

·         Nid oes trafodaeth neu wybodaeth wedi ei rannu gyda ni eto am y modd y bydd ‘Cwricwlwm i Gymru’ yn cael ei ymgorffori i gymwysterau perthnasol y gweithlu addysg nas cynhelir.  Mae’r gweithlu hwn yn dilyn cymwysterau gofal ac addysg plant pwrpasol i’r blynyddoedd cynnar a bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu defnyddio o Fis Medi 2019. 

·         Nid oes gwybodaeth wedi ei rannu eto ynglyn a sut y bydd y sector nas cynhelir yn cael eu hyfforddi  i gyflwyno Cwricwlwm i Gymru.  Nid yw’r sector hon yn derbyn unrhyw gefnogaeth trwy Gonsortia Rhanbarthol.  Cefnogir y lleoliadau nas cynhelir gan athrawon ymgynghorol / cyswllt ar hyn o bryd, o dan reolaeth yr awdurdodau lleol.  Rydym wedi gweld crebachu mawr o’r cyllid a fu ar gael i hyfforddi a chefnogi’r sector yma dros y blynyddoedd diwethaf.  Pryderwn oni fydd buddsoddiad pwrpasol newydd i’r maes i hyfforddi ymaferwyr addysg yn y sector nas cynhelir, ni fydd modd ’n hymaferwyr gyflwyno’r Cwrwicwlwm Newydd.

·         Ar hyn o bryd mae lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu addysg 3 oed yn cael eu hannog i ddefnyddio Proffil y Cyfnod Sylfaen fel modd o nodi cynnydd plant. Nid oes manylion wedi eu rhannu eto am unrhyw newidiadau arfaethedig ar gyfer cofnodi cynnydd plant yn y blynyddoedd cynnar hyd y gwyddom.  Edrychwn ymlaen at gael mewnbwn i ddatblygiad pa bynnag ffurf o broffil a ddaw yn y dyfodol

 

Diolchwn am y cyfle  ymateb i’r ymchwiliad hwn.